From education to employment

Eich Coleg, Eich Dyfodol, Ein Gwarant

Mark Jones, pennaeth Coleg Gŵyr Abertawe yn esbonio sut mae’r Coleg yn cynllunio i helpu myfyrwyr i greu llwybr dilyniant clir ar gyfer eu dyfodol.

Un o’r problemau y mae pob sefydliad addysgol yn ei hwynebu yw bod nifer o rieni a darpar fyfyrwyr yn aml yn barnu eu perfformiad yn ôl yr hyn sy’n gallu bod yn farn gul am raddau a chyfraddau pasio, ond mae eu gwir rôl yn mynd ymhell y tu hwnt i hyn.

Rôl allweddol colegau addysg bellach yw sicrhau ein bod yn ychwanegu gwerth fel bod ein myfyrwyr yn ein gadael â chymwysterau a/neu sgiliau nad oedd ganddynt pan gyrhaeddon nhw.

O ganlyniad, maen nhw’n gallu symud ymlaen i’r cam nesaf, a all gynnwys cwrs lefel uwch mewn prifysgol flaenllaw, prentisiaeth neu swydd gyda chyflogwr lleol.

 

Yn ddiweddar clywais addysg yn cael ei chymharu â thraffordd lle mae cyfeiriad teithio clir ond gyda nifer o bwyntiau mynediad ac ymadael, ac rwy’n credu bod hyn yn gymhariaeth deg iawn.

Mae pob coleg addysg bellach yn gallu gwneud hyn yn dda iawn oherwydd yr amrywiaeth eang o raglenni y maent yn eu cynnig sy’n cefnogi’r dilyniant hwn, ac mewn llawer o achosion, yn darparu’r dilyniant hefyd.

Felly, er enghraifft, yng Ngholeg Gŵyr Abertawe, mae’r cymorth ychwanegol a ddarparwn i helpu gyda cheisiadau prifysgol yn golygu bod ein cyfradd llwyddo – o ran y cynigion y mae ein myfyrwyr yn eu derbyn – yn gyson 10% yn uwch na’r cyfartaledd cenedlaethol.

Yn yr un modd, mae’r 2,500 o lwybrau prentisiaeth rydym yn eu darparu bob blwyddyn yn rhoi cyfleoedd ychwanegol i lawer o’n myfyrwyr yn ogystal â chymhelliant go iawn i weithio’n galed i greu argraff ar ddarpar gyflogwyr.

Fodd bynnag, ym mis Medi, byddwn yn gwneud mwy fyth yng Ngholeg Gŵyr Abertawe ac yn gwarantu un o bum llwybr dilyniant i’n myfyrwyr.

Gallai’r rhain gynnwys cynnig i brifysgol yn y DU, cwrs addas arall yn y Coleg, swydd, prentisiaeth sydd wedi’i chysylltu’n benodol â rhanbarth Abertawe a de-orllewin Cymru, neu gymorth cyflogadwyedd wedi’i deilwra’n bersonol i’w helpu i gael swydd.

Gallwn wneud hyn oherwydd y cynnydd mewn cyfleoedd prentisiaeth – o 350 yn 2016 i dros 2,500 heddiw – a chyflwyno cyfres o gymorth cyflogadwyedd a gynigir gan raglen Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol y Coleg.

Mae Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol wedi ei leoli’n gyfleus yng nghanol y ddinas a, hyd yn hyn, mae wedi helpu dros 1,000 o gleientiaid i gael gwaith.

Ym mis Medi, bydd Hyfforddwyr Gyrfa profiadol ac ymroddedig yn treulio rhan o’u hwythnos yn gweithio gyda’n myfyrwyr amser llawn yn Hybiau’r Dyfodol newydd sbon ar ein campysau yn Nhycoch a Gorseinon, a fydd yn darparu cymorth a chefnogaeth trwy sesiynau tiwtorial a sesiynau galw heibio.

Mae’r warant hon wrth gwrs yn ddibynnol ar fyfyrwyr yn bodloni ein meini prawf craidd o bresenoldeb uchel, ymddygiad da a chwblhau cyrsiau. Beth bynnag fo’r canlyniad, rydym yn dal i fod yn awyddus i weithio gyda’r holl fyfyrwyr i helpu i lywio eu cam nesaf.

Felly, os ydych yn awyddus i wybod rhagor am y cyfleoedd sydd ar gael i chi, cysylltwch â ni.


Related Articles

Responses