From education to employment

Myfyrwyr rhyngwladol yn anelu’n uchel!

Mae 60% o’n myfyrwyr Safon Uwch rhyngwladol wedi ennill graddau A* ac A yn eu harholiadau yn ddiweddar.

Ers hynny, mae dros 90% o’r myfyrwyr hyn wedi cael eu derbyn i astudio mewn prifysgolion Russell Group nodedig, gan gynnwys Caergrawnt.

Dyma rai o’r cyrchfannau prifysgol sydd wedi’u cadarnhau a’r myfyrwyr fydd yn mynd iddynt:

Roedd Haolin Wu (o Tsieina) wedi cael pedair gradd A* a bydd bellach yn astudio Economi Tir yng Ngholeg Crist, Caergrawnt.

Mae Yuzhe Zhang (Tsieina) wedi derbyn ysgoloriaeth £180k i astudio Daeareg yng Ngholeg Imperial Llundain.

Roedd Xiyu Zhang (hefyd o Tsieina) wedi cael tair gradd A* ac mae wedi cael ei derbyn i astudio Ffiseg yn St. Andrews, Yr Alban.

Mae Ranyoung Kim (De Corea), Chen-Yi Lai (Taiwan) a Jiaqi Zheng (Tsieina) i gyd wedi cael eu derbyn i astudio ym Mhrifysgol Warwig – eu pynciau yw’r Cyfryngau, Economeg a Mathemateg yn y drefn honno.

Mae Chi Yuan Chu (Taiwan) wedi cael ei dderbyn i astudio Rheolaeth ym Mhrifysgol Manceinion.

Mae Harris Law (Hong Kong) a Wencin Cui (Tsieina) wedi cael eu derbyn i astudio’r Gyfraith a’r Cyfryngau yn y drefn honno ym Mhrifysgol Caerdydd.

Mae Gieun Cho (De Corea), Xiaotong Zhang (Tsieina), Jiachin Liang (Tsieina), a Yueming Shi (Tsieina) wedi cael eu derbyn i astudio yng Ngholeg Prifysgol Llundain mewn Economeg, Mathemateg, Mathemateg a Pheirianneg yn y drefn honno.

Mae Yunmiao Zhang a Yiting Zhang (daw’r ddau o Tsieina) wedi cael eu derbyn i astudio Sŵoleg a Seicoleg, yn y drefn honno, ym Mhrifysgol Sheffield.

Mae Yuxi Liu (Tsieina) wedi cael ei dderbyn i astudio Cemeg Fferyllol ym Mhrifysgol y Santes Fair, Llundain.


Related Articles

Responses