Updated 12/05/2020

Coleg Gŵyr Abertawe yw’r prif goleg Safon Uwch yng Nghymru (DU) sydd ag enw da am lwyddiant Rhydgrawnt.
 
Mae ein rhaglen Rhydgrawnt wedi bod yn rhedeg am fwy na dau ddegawd, gan roi’r paratoad gorau posibl i fyfyrwyr gael eu derbyn i Rydychen, Caergrawnt a phrifysgolion Russel Group eraill. Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn gweithio mewn partneriaeth â’r Coleg Newydd, Rhydychen a Choleg Churchill, Caergrawnt.
 
Mae rhaglen ar-lein yr haf Rhydgrawnt yn gwrs pythefnos, ar gyfer myfyrwyr sy’n academaidd uchelgeisiol a hoffai symud ymlaen i un o brif sefydliadau addysg uwch y DU, gan gynnwys naill ai Rhydychen neu Gaergrawnt (a elwir gyda’i gilydd yn Rhydgrawnt yn y DU), neu brifysgolion blaenllaw eraill megis Ysgol Economeg Llundain, Coleg Imperial Llundain a Phrifysgol Durham.
 
Mae’r cwrs yn addas ar gyfer myfyrwyr cyn TGAU neu gyn Safon Uwch (14-18 oed) a bydd yn rhoi cipolwg a throsolwg i fyfyrwyr o’r prifysgolion mawreddog hyn. Bydd hefyd yn rhoi gwybodaeth hanfodol i fyfyrwyr ynghylch proses ymgeisio Rhydgrawnt. 
 
Mae’r rhaglen yn cynnwys 1.5 awr y dydd o sesiynau tiwtorial rhyngweithiol, ar-lein, yn ogystal â chynnwys academaidd ychwanegol i’w gwblhau’n annibynnol.
 
Mae’r pynciau’n cynnwys: 
  • Cipolwg ar strwythur a natur y ddau sefydliad, gan gynnwys system addysgu unigryw Rhydgrawnt a natur y system golegol
  • Sut le yw Rhydgrawnt mewn gwirionedd? Chwalu’r stereoteipiau a’r chwedlau am y sefydliadau hyn
  • Bywyd fel myfyriwr israddedig yn Rhydgrawnt, gan gynnwys agweddau academaidd a chymdeithasol bywyd coleg
  • Y broses ymgeisio a’r hyn y mae tiwtoriaid/cymrodyr derbyn yn chwilio amdano mewn ymgeisydd Rhydgrawnt llwyddiannus
  • Cyngor ac arweiniad ar bwysigrwydd archwilio uwch-gwricwlaidd effeithiol
  • Gwneud cais UCAS ac ysgrifennu datganiad personol
  • Gweithdai meddwl yn feirniadol a pharatoi ar gyfer profion/asesiadau derbyn
  • Paratoi ar gyfer cyfweliad Rhydgrawnt.
Bydd pob sesiwn ryngweithiol yn datblygu gwybodaeth hanfodol myfyrwyr o Rydgrawnt a’i phrosesau, ond bydd hefyd yn meithrin y sgiliau academaidd sy’n hanfodol ar gyfer cais llwyddiannus i Rydgrawnt, gan gynnwys hyblygrwydd deallusol, chwilfrydedd academaidd, meddwl yn feirniadol a datrys problemau.
 
Gallwch lenwi’r ffurflen gais yma
 
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 1 Mehefin 2020
 

Tags: