From education to employment

Ymunwch â ni yn Niwrnodau Agored Rhiwthwir Cymru

Oherwydd Covid-19, mae llawer o ddigwyddiadau a oedd wedi’u cynllunio a’u hamselenni, megis diwrnodau agored, bellach wedi’u canslo.

Rydym yn gwybod pa mor bwysig y mae diwrnodau agored yn gallu bod i chi o ran eich helpu i ddod i benderfyniad ynghylch eich camau nesaf, felly rydym yn gweithio gyda Llywodraeh Cymru i ddod â’n diwrnod agored i chi.

Ar ddydd Mercher 8 Gorffennaf am 4pm, byddwn ni’n cymryd rhan yn Niwrnod Agored Rhithwir De Orllewin a Chanolbarth Cymru, er mwyn rhoi blas i chi o Goleg Gŵyr Abertawe.

Byddwch yn cael cyfle i glywed cyflwyniad gan ein Dirprwy Benaeth Nick Brazil, a fydd yn esbonio i chi ble y gallwn ni fel Coleg fynd â chi, yn ogystal â chlywed sut y gallwch ddefnyddio eich Cymraeg yn y Coleg gyda’n Hyrwyddwr Dywyieithrwydd, Anna Davies. Bydd hefyd gwybodaeth ar gael am ein cyfleoedd prentisiaeth!

Felly, p’un ai ydych chi wedi dod i benderfyniad, neu’n dal i fod ar y ffens ynglyn â beth rydych chi eisiau gwneud nesaf, bydd y diwrnod yn gyfle i chi gael yr holl wybodaeth sydd ei angen arnoch i wneud y penderfyniad cywir.

Ymunwch â Diwrnod Agored Rhithwir De Orllewin a Chanolbarth Cymru yma neu ffoniwch Cymru’n Gweithio 0800 028 4844.

Gallwch hefyd gael gafael ar Cymru’n Gweithio ar Facebook neu Twitter: @WorkingWales


Related Articles

Innovation by Necessity: How Africa’s Startup Ecosystem is Tackling Youth Unemployment and Shaping the Global Economy

Mr. Rafiq El Alami Head of the Digital Innovation Center of Excellence (DICE) at University Mohammed VI Polytechnic (UM6P), explores how African start-ups are tackling youth…

Responses