From education to employment

Rhagbrawf rhanbarthol yn rhoi myfyrwyr ar brawf

Mae myfyrwyr Peirianneg Electronig o Goleg Gŵyr Abertawe wedi cymryd rhan mewn rhagbrawf rhanbarthol WorldSkills y DU ar Gampws Tycoch.

Roedd y rhagbrawf rhanbarthol, sy’n rhan o fframwaith cystadleuaeth WorldSkills ac a drefnwyd mewn partneriaeth â SEMTA, yn cynnwys tri gweithgaredd ymarferol – adeiladu electronig, prawf a mesur, canfod namau – a phrawf theori.

Bydd y myfyrwyr gorau o’r digwyddiad hwn yn mynd ymlaen i’r cam nesaf yn y gystadleuaeth, a’r nod yn y pen draw fydd cael eu dewis i gynrychioli Cymru a’r DU yn rhyngwladol.

“Mae cymryd rhan yn y cystadlaethau hyn yn rhoi cyfle gwych i’r myfyrwyr ddatblygu eu sgiliau a’u gallu i ganolbwyntio a gweithio o dan bwysau o fewn terfynau amser,” dywedodd yr Arweinydd Cwricwlwm Steve Williams.

“Mae bod yn rhan o’r broses WorldSkills yn fraint go iawn – nid yn unig mae’n rhoi modd i ddysgwyr fagu hyder yn yr amgylchedd Coleg mae’n helpu hefyd i godi eu dyheadau a’u hannog i feddwl am sut y gallan nhw addasu eu sgiliau yn barod i weithio yn y diwydiant, nid yn y DU yn unig ond yn bellach i ffwrdd hefyd.”


Related Articles

Responses