From education to employment

Coleg Gŵyr Abertawe wedi’i enwebu ar gyfer Gwobr FE First

Mae tîm Marchnata Coleg Gŵyr Abertawe wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer gwobr genedlaethol fawreddog.

Bydd y Rhwydwaith Marchnata Colegau/Gwobrau FE First am Ragoriaeth Marchnata yn cael eu cynnal ar 2 Rhagfyr yn Warwig ac, ar y rhestr fer yn y categori Rheoli Digwyddiadau, mae seremoni Gwobrau Blynyddol Myfyrwyr y Coleg, digwyddiad ffurfiol i dros 200 o bobl a gynhelir bob haf yn Stadiwm Liberty.

Mae Gwobrau Blynyddol Myfyrwyr Coleg Gŵyr Abertawe yn gyfle i ddathlu llwyddiant yr holl ddysgwyr boed yn ymadawyr ysgol amser llawn, oedolion sy’n dysgu’n rhan-amser, prentisiaid, myfyrwyr addysg uwch, disgyblion darpariaeth 14-16 neu’r rheini ar gyrsiau hyfforddi cyflogwyr.

Mae’r noson yn tynnu sylw at lwyddiannau myfyrwyr unigol yn ogystal â chydnabod pawb sydd wedi chwarae rhan allweddol yn eu llwyddiant gan gynnwys eu teuluoedd, eu ffrindiau, eu darlithwyr a’u cyflogwyr.

Mae’r digwyddiad yn cael ei gynllunio, ei drefnu a’i ddarparu gan y tîm Marchnata sy’n goruchwylio pob elfen o’r noson gan gynnwys cysylltu â’r lleoliad a threfnu siaradwr gwadd (eleni y soprano o’r radd flaenaf a’r cyn-fyfyriwr Elin Manahan Thomas), cydlynu’r rhestr westeion, trefnu ffotograffiaeth a fideo a phob agwedd ar gysylltiadau cyhoeddus a chyfryngau cymdeithasol.

Mae’r Gwobrau Blynyddol wedi tyfu’n sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf, o ran maint ac uchelgais, ac maent wedi dod yn gyfrwng perffaith i gryfhau’r cysylltiadau presennol rhwng y Coleg, cyflogwyr lleol a phartneriaid cymunedol, y mae llawer ohonynt wedi ymuno â ni fel noddwyr y digwyddiad.

“Rydyn ni wrth ein bodd bod ein digwyddiad Gwobrau Blynyddol Myfyrwyr wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer un o’r gwobrau cenedlaethol gorau,” meddai’r Rheolwr Marchnata a Derbyn, Marie Szymonski. “Mae’r digwyddiad penodol hwn yn gofyn am fisoedd o gynllunio, ac mae pob un yn cael ei wneud ochr yn ochr â llwythi gwaith prysur o ddydd i ddydd. Mae’n wych bod y gwaith caled hwn, y manylder a’r gwaith paratoi gofalus wedi cael eu cydnabod.”

DIWEDD


Related Articles

Responses