Coleg yn paratoi ar gyfer mis Medi ar ei newydd wedd
Gydag iechyd a diogelwch ein cymunedau wrth wraidd y broses o wneud penderfyniadau, mae Coleg Gŵyr Abertawe yn paratoi i groesawu myfyrwyr o fis Medi, yn unol â chanllawiau diweddaraf Llywodraeth Cymru.
Gan y bydd gofynion ymbellhau cymdeithasol yn debygol o aros yn eu lle hyd y gellir rhagweld, mae’r Coleg ar hyn o bryd yn addasu sut mae’n rhedeg ei holl raglenni gan gynnwys cyfuniad o addysgu a chymorth ar-lein ac wyneb yn wyneb.
Gyda’r defnydd ardderchog o ddysgu ac addysgu ar-lein ers cyflwyno’r cyfnod clo ym mis Mawrth, mae profiad y Coleg ym maes addysgu digidol yn sicr wedi ennill momentwm ac yn parhau i ddatblygu gyda thîm seilwaith TG cryf ar waith i’w gefnogi. Yn ogystal, gyda buddsoddiad blynyddol o dros £1,000,000 mewn TG, mae’n amlwg bod y Coleg mewn sefyllfa dda i gefnogi’r cynnydd hwn yn y ddarpariaeth ddigidol.
Mae partneriaethau helaeth y Coleg â darparwyr addysg eraill hefyd yn golygu bod ganddo fynediad at amrywiaeth eang o adnoddau ar-lein i sicrhau bod pob rhaglen yn gyfoethog ac yn gyfredol o ran cynnwys digidol.
O ystyried y datblygiadau a wnaed mewn cymorth a dysgu digidol, mae’r Coleg bellach yn y sefyllfa orau i amlinellu sut olwg fydd ar fis Medi.
Bydd y dull newydd hwn yn cynnwys:
- Sesiynau a addysgir yn rheolaidd. Bydd hyn yn cynnwys dosbarthiadau ar yr amserlen, dan arweiniad athrawon trwy gyfuniad o sesiynau ar y campws ac ar-lein gyda darlithwyr gwadd rhithwir a dosbarthiadau meistr a ddarperir gan siaradwyr allanol o addysg uwch a diwydiant.
- Sesiynau ymarferol. Bydd y rhain yn digwydd ar y campws mewn grwpiau bach, mewn gweithdai, salonau, labordai a cheginau. Byddwn yn defnyddio adnoddau ar-lein i ategu ac ymestyn y sesiynau ymarferol hyn.
- Cymorth bugeiliol. Bydd hwn yn cynnwys sesiynau tiwtorial un i-un ac mewn grwpiau a bydd y Coleg yn parhau i roi cymorth personol, ariannol a chymorth astudio yn ogystal â chyngor ar ddilyniant gyrfa.
- Cymorth ychwanegol. Bydd hwn yn cynnwys cymorth ychwanegol trwy raglenni megis HE+ a’n paratoadau ar gyfer cystadlaethau’r DU a WorldSkills yn ogystal â bodloni gofynion y Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol.
Wrth siarad am y cyfeiriad newydd hwn, dywedodd y Pennaeth Mark Jones: “Bydd Coleg Gŵyr Abertawe ar agor ac yn barod i ddarparu profiad addysg o safon uchel ar ddechrau’r flwyddyn academaidd newydd, ond mewn ffordd wahanol iawn.
“Er bod y cyfyngiadau yn dechrau llacio, mae ansicrwydd yn parhau ynghylch cynnydd Covid-19 a byddwn yn parhau i addasu a bod yn hyblyg yn seiliedig ar ganllawiau Llywodraeth Cymru.
“Wrth i iechyd a diogelwch cymuned ein Coleg barhau i fod yn fater byw yn ein holl benderfyniadau, byddwn yn mabwysiadu dull cyfunol o addysg o fis Medi ymlaen gyda chyfraniad gan ein timau cwricwlwm ac uwch aelodau o staff.
Byddwn yn anelu at sicrhau bod ein holl fyfyrwyr yn parhau i gael y profiad addysgol gorau posibl a’u bod yn cael y cyfle gorau i symud ymlaen i’r llwybr o’u dewis gyda’n gwarant unigryw.”
Mae Gwarant Coleg Gŵyr Abertawe yn sicrhau bod yr holl fyfyrwyr yn cael cyfle i symud ymlaen ar ôl iddynt orffen eu cwrs, boed hynny i’r brifysgol, cwrs Coleg arall, prentisiaeth neu’n syth i fyd gwaith.
O fis Medi, bydd myfyrwyr hefyd yn dilyn rhaglen sefydlu fanylach i sicrhau eu bod yn gallu cyrchu deunyddiau addysgu a chymorth ar-lein yn y Coleg ac yn y cartref.
Ychwanegodd Mark Jones: “Gobeithio y bydd y dull hwn yn rhoi rhywfaint o eglurder i’n myfyrwyr o ran yr hyn maen nhw’n gallu ei ddisgwyl o ddechrau’r tymor a sut olwg fydd ar y Coleg.
“Rydyn ni’n gweithio’n galed iawn i sicrhau ein bod ni’n cyflwyno’r hyn sydd orau i’n myfyrwyr a byddwn ni’n rhoi cymorth iddyn nhw bob cam o’r ffordd.”
Responses