From education to employment

Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2020-2024

Rwyf yn falch iawn fy mod i wedi fy ngwahodd i lansio’r ymgynghoriad ar gyfer ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol newydd ar gyfer 2020-2024.

Yng Ngholeg Gŵyr Abertawe, rydym yn ymfalchïo yn y ffaith ein bod yn sefydliad cynhwysol sy’n ymestyn dros ein holl gymunedau lleol, yn ogystal â dathlu amrywiaeth ein carfan o fyfyrwyr.

Er hyn, rydym yn ymwybodol o’r ffaith y gallwn wneud mwy, ac yn gwybod y dylem ni wneud mwy er mwyn bod yn fwy cynrychioladwy o’n cymunedau. Mi fydd ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol yn rhoi’r cyfle ichi wneud hyn, ac yn gyfle ichi adlewyrchu’r ardaloedd allweddol y mae angen inni ganolbwyntio arnynt dros y pedair mlynedd nesaf.

Gwyliwch y fideo i gael trosolwg o’r amcanion. Croeso ichi anfon unrhyw sylwadau neu adborth ar sut y gellir gwella’r cynllun drafft hwn at [email protected].

Mark Jones
Pennaeth a Phrif Weithredwr

 


Related Articles

Responses