From education to employment

£2 million for new college courses for jobs in the green economy

The @WelshGovernment has awarded £2 million to further education colleges to provide training for jobs in the #GreenEconomy  

The funding is part of the Welsh Government’s Personal Learning Accounts programme, which supports people in lower-income jobs to retrain and move into longer term, skilled jobs with higher earnings.

Six colleges have been awarded funding to deliver the courses, which will include areas such as electric and hybrid cars, environmentally-friendly heating systems and e-bikes. The courses will be available from level 2 to level 5, with most courses at level 3. The courses are part-time and flexible, designed for study around other commitments.

The courses will be open to:

  • adults over 19 who earn under £26,000 a year, including employees currently on furlough, or on a zero hours contract, or whose job is at risk; and
  • employees of companies who have identified specific training needs in these sectors.

Personal Learning Account courses are designed to match skills gaps identified in priority sectors. Further education colleges have worked with employers to develop courses which are expected to create job opportunities now or in the near future.

The colleges awarded funding are:

  1. Gower College Swansea
  2. Pembrokeshire College
  3. Coleg Sir Gar
  4. Grwp Llandrillo Menai
  5. Cardiff and Vale College
  6. Bridgend College

The Minister for Education and Welsh Language, Jeremy Miles, said:

“Jobs in the green economy will continue to increase in the future, as we intensify our actions to fight climate change, such as the shift towards more environmentally-friendly transport. Our further education colleges will be instrumental in ensuring we have skilled workers with the expertise to meet the demand from employers.

“If you’re worried about the certainty of your employment, or you’re on furlough or a zero hours contract, accessing a free Personal Learning Account could provide you with the skills and qualifications to embark on a new and rewarding career.”

The Minister for Economy, Vaughan Gething said:

“We want to build an economy based on the principles of fair work, sustainability and the industries and services of the future. We’re committed to supporting Welsh businesses to prosper, grow and create the jobs of the future, which will look very different to the jobs of the past.

“Our increased investment in Personal Learning Accounts will help ensure workers across Wales can access new training opportunities to upskill or reskill and take advantage of the opportunities these new jobs will deliver for people, communities and the wider Welsh economy.”

Minister for Climate Change, Julie James, said:

“As a Government, we are committed to working in social partnership to create new jobs in the industries of the future, and to transform our economy into one which is greener and fairer.

“These courses will create new opportunities in industries which are sustainable and will help us in our overarching aim to fight climate change.”

Cyrsiau coleg newydd ar gyfer swyddi yn yr economi werdd

Mae Llywodraeth Cymru wedi dyfarnu £2 filiwn i golegau addysg bellach i ddarparu hyfforddiant ar gyfer swyddi yn yr economi werdd.

Mae’r cyllid yn rhan o raglen Cyfrifon Dysgu Personol Llywodraeth Cymru sy’n cefnogi pobl mewn swyddi incwm is i ailhyfforddi a symud i swyddi tymor hwy, medrus gydag enillion ar lefelau uwch.

Dyfarnwyd cyllid i chwe choleg i ddarparu’r cyrsiau, a fydd yn cynnwys meysydd fel ceir trydan a cheir hybrid, systemau gwresogi ecogyfeillgar ac e-feiciau. Bydd y cyrsiau ar gael o lefel 2 i lefel 5, gyda’r rhan fwyaf o gyrsiau ar lefel 3. Mae’r cyrsiau’n rhan-amser ac yn hyblyg, wedi’u cynllunio ar gyfer astudio o amgylch ymrwymiadau eraill.

Bydd y cyrsiau’n agored i:

  • oedolion dros 19 oed sy’n ennill llai na £26,000 y flwyddyn, gan gynnwys gweithwyr sydd ar ffyrlo ar hyn o bryd, neu ar gontract dim oriau, neu y mae eu swydd mewn perygl;
  • gweithwyr cwmnïau sydd wedi nodi anghenion hyfforddiant penodol yn y sectorau hyn.

Mae cyrsiau Cyfrif Dysgu Personol wedi’u cynllunio i gyd-fynd â bylchau o ran sgiliau a nodwyd mewn sectorau â blaenoriaeth. Mae colegau addysg bellach wedi cydweithio â chyflogwyr i ddatblygu cyrsiau y disgwylir iddynt greu cyfleoedd gwaith nawr neu yn y dyfodol agos.

Y colegau y dyfarnwyd cyllid iddynt yw:

  • Coleg Gŵyr Abertawe
  • Coleg Sir Benfro
  • Coleg Sir Gâr
  • Grŵp Llandrillo Menai
  • Coleg Caerdydd a’r Fro
  • Coleg Penybont

Dywedodd Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg:

“Bydd swyddi yn yr economi werdd yn parhau i gynyddu yn y dyfodol, wrth i ni ddwysáu ein camau gweithredu i frwydro yn erbyn newid yn yr hinsawdd, fel y symud tuag at drafnidiaeth sy’n fwy ecogyfeillgar. Bydd ein colegau addysg bellach yn allweddol i sicrhau bod gennym weithwyr medrus sydd â’r arbenigedd i ddiwallu’r galw gan gyflogwyr.

“Os ydych chi’n poeni ynghylch pa mor sicr yw eich gwaith, neu os ydych chi ar ffyrlo neu gontract dim oriau, gallai cael mynediad i Gyfrif Dysgu Personol am ddim roi’r sgiliau a’r cymwysterau i chi gychwyn ar yrfa newydd a gwerth chweil.”

Dywedodd Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi:

“Rydym am adeiladu economi sy’n seiliedig ar egwyddorion gwaith teg, cynaliadwyedd a diwydiannau a gwasanaethau’r dyfodol. Rydym wedi ymrwymo i gefnogi busnesau Cymru i ffynnu, tyfu a chreu swyddi’r dyfodol, fydd yn edrych yn wahanol iawn i swyddi’r gorffennol.

“Bydd ein buddsoddiad cynyddol mewn Cyfrifon Dysgu Personol yn helpu i sicrhau bod gweithwyr ledled Cymru yn gallu manteisio ar gyfleoedd hyfforddi newydd i uwchsgilio neu ailsgilio a manteisio ar y cyfleoedd y bydd y swyddi newydd hyn yn eu darparu i bobl, cymunedau ac economi ehangach Cymru.”

Dywedodd Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd:

“Fel Llywodraeth, rydym wedi ymrwymo i weithio mewn partneriaeth gymdeithasol i greu swyddi newydd yn niwydiannau’r dyfodol, ac i drawsnewid ein heconomi yn un sy’n wyrddach ac yn decach.

“Bydd y cyrsiau hyn yn creu cyfleoedd newydd mewn diwydiannau sy’n gynaliadwy ac a fydd yn ein helpu o ran ein nod cyffredinol o frwydro yn erbyn newid yn yr hinsawdd.”

Mae rhagor o wybodaeth am Gyfrifon Dysgu Personol ar gael drwy gysylltu â’ch coleg addysg bellac.


Related Articles

Responses