Lansio platfform dysgu newydd i ymgeiswyr Coleg
Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn falch o lansio ei blatfform dysgu cyntaf oll yr wythnos hon i ddisgyblion ysgol blwyddyn 11 y ddinas.
Gyda’r ansicrwydd parhaus ynghylch Covid-19, roedd y Coleg yn awyddus i gryfhau ei ymateb drwy ddatblygu llwyfan bwrpasol i helpu ymgeiswyr i gadw rheolaeth ar eu dysgu.
Mae’r platfform, a ddatblygwyd ar gyfer darpar fyfyrwyr, yn cynnwys deunyddiau dysgu, gweithgareddau ac offer ar draws amrywiaeth o feysydd cwricwlwm gan gynnwys iechyd a gofal, peirianneg, gwyddoniaeth a busnes. Mae’n cynnwys llwybrau Safon Uwch a galwedigaethol.
Yn siarad am y platfform, dywedodd Arweinydd y Tîm Technoleg Dysgu Rhyngweithiol Kate Pearce: “Roedden ni’n awyddus i ddatblygu rhywbeth a fyddai’n rhoi cyfle i ddarpar fyfyrwyr archwilio cyrsiau Coleg yn ystod y cyfnod heriol hwn. Heb os nac oni bai bydd yn eu helpu i ddod yn gyfarwydd â’r cwricwlwm cyn dechrau gyda ni yn yr hydref.”
Wrth ei fodd gyda’r canlyniad, dywedodd y Dirprwy Bennaeth Nick Brazil: “Rydyn ni’n ymrwymedig i sicrhau bod ein hymgeiswyr yn gallu cyrchu deunyddiau dysgu a fydd, nid yn unig yn eu helpu i ddatblygu eu sgiliau, ond yn cynyddu hyder a galluogi cyfnod pontio esmwyth o’r ysgol i’r coleg pan ddaw’r amser. Dyma rywbeth rydyn ni’n awyddus i’w ddatblygu yn y dyfodol.”
Gallwch gyrchu’r platfform yma
Responses