Seremoni raddio rithwir i fyfyrwyr rhyngwladol
Diolch i ryfeddodau technoleg ddigidol, cafodd ein myfyrwyr rhyngwladol seremoni raddio wahanol iawn i flynyddoedd blaenorol.
Ar 29 Mehefin, roedd ein myfyrwyr Safon Uwch wedi mynd i ddigwyddiad ar-lein, a oedd Ć¢ nifer o negeseuon gan staff ar draws y Coleg, gan gynnwys y Pennaeth, Mark Jones.
Roedd y myfyrwyr wedi mwynhau sioe sleidiau oāu rhaglen gymdeithasol cyn i Terry Summerfield, Tiwtor Rhyngwladol, gyflwynoār tystysgrifau.
Ar ddiwedd y seremoni, cafodd myfyrwyr gyfle i siarad ac roedd llawer wedi mynegi eu diolch cywiraf am eu hamser yng Ngholeg Gŵyr Abertawe.
Rydym yn hynod falch oān myfyrwyr rhyngwladol, y mae gan lawer ohonynt gynigion gan rai o brifysgolion gorauār wlad, gan gynnwys UCL, Warwig, Imperial, Manceinion, Caeredin, Southampton, Birmingham, Caerdydd, Lerpwl a Bryste.
Rydym yn dymunoān dda iddynt i gyd yn eu hastudiaethau yn y dyfodol!
Responses