From education to employment

Grŵp Llandrillo Menai leads the way in bilingual FE health and social care provision

Further education has a major role to play in meeting the growing demand for bilingual skills in the health and social care sector, according to Wales’ largest further education provider.

Grŵp Llandrillo Menai, who is leading the way in the field of bilingual FE provision, claims that promoting the social and economic value of the Welsh language amongst post-16 students is key to enable them to take advantage of future job opportunities. A key priority area for the Grŵp is the health and social care sector, where employers and customers are increasingly expecting to receive services in both Welsh and English.

The Grŵp is capitalising on its presence at this year’s National Eisteddfod in Llanrwst to highlight some of the initiatives running across their sites in North Wales to support the local and national bilingual skills agenda. This includes the launch of a bilingual, interactive language awareness resource pack to support their FE learners who will be following the Level 2 Health and Social Care: Core course from September 2019 onwards.

It will also be celebrating the innovative relationship between the Grŵp and Coleg Cymraeg Cenedlaethol which promotes Welsh medium and bilingual study opportunities.

In February this year, 10 Foundation Degree (FdA) Health and Social Care students from Coleg Meirion-Dwyfor (Dolgellau site) were awarded the Coleg Cymraeg Cenedlaethol’s Incentive Scholarship. The scholarships, each worth £1500 over three years, were available to students in their first year that were studying at least 33% of their course through the medium of Welsh.

Since its establishment in 2011, Coleg Cymraeg Cenedlaethol has worked through branches across seven universities in Wales which act as a local contact point for students. Following the extension of its remit to the post-16 sector, a further education branch of the Coleg Cymraeg was established in Grŵp Llandrillo Menai in 2018.

Grŵp Llandrillo Menai Chief Executive Officer, Dafydd Evans, said: “We are extremely proud of the positive and ground-breaking working relationship we have with Coleg Cymraeg Cenedlaethol. We play a vital role as a further education provider to implement various action plans and strategies around bilingualism in response to Government and other organisational steers. 

“The partnership with the Coleg Cymraeg strengthens our capacity to ensure continuation from bilingual primary and secondary education as our students prepare for the workplace by giving them the opportunity to keep on using their Welsh throughout their studies. Providing courses so that they can continue their studies through the medium of Welsh is only part of the answer; we are also encouraging young people to value bilingualism and aim to build their confidence to use the Welsh language wherever they can.”

He added: “The Welsh language lies at the very core of our values and culture as an organisation, and the enhancement of bilingual learning and social opportunities is a top priority for us – especially in the field of health and social care where bilingual skills are so important for our students’ future career prospects.

“The appointment of a Coleg Cymraeg Cenedlaethol branch officer within the Grŵp has further advanced our work in this area, and we have some very exciting initiatives in the pipeline. In the autumn, we will be hosting a multi-agency conference to discuss the importance of the Welsh language in the health and social care sector.

“We will also be launching a brand new trans-generational project called ‘Gyda’n Gilydd’ – funded through the Coleg Cymraeg’s Promotion Fund – to bring our health and social care students together with older people to enjoy informal social activities in a naturally bilingual environment.”

Dr Dafydd Trystan, Registrar of Coleg Cymraeg Cenedlaethol said: “I am extremely pleased to see the partnership between Coleg Cymraeg and the Grŵp. The National Plan to develop bilingual skills in colleges across Wales is an important foundation for further development over the next decade.

“The focus on developments in the field of Health and Social Care is crucial to ensure that every learner and the Grŵp have the confidence to deal with patients and clients in Welsh or in English.”

Collaboration with employers is also an important part of Grŵp Llandrillo Menai’s bilingualism strategy. Derwen Deg, a Llandudno Junction-based Welsh medium nursery, has been working alongside the Grŵp to highlight local childcare job opportunities among students and raise awareness of the increasing demand from parents for Welsh language nursery care and pre-school education.

Nia Owen, founder of Derwen Deg, will be taking part in a discussion on the importance of Welsh within the childcare sector hosted by the Grŵp on the Eisteddfod Maes on Friday. Mother of two Nia said: “The demand for Welsh medium and bilingual nursery provision currently outweighs the supply in many parts of Wales, which is exactly what motivated me to set up in partnership with Menter Iaith Conwy back in 2016.

“We can’t possibly meet this demand unless we have plenty of appropriately skilled bilingual staff who can help us provide Welsh medium childcare for families along the North Wales coast. That’s why we fully support Grŵp Llandrillo Menai’s work in this field, and are delighted to play our part in equipping learners with the skills and awareness to take advantage of job opportunities now and in the future.”


Grŵp Llandrillo Menai ar flaen y gad gyda darpariaeth addysg bellach ym maes iechyd a gofal cymdeithasol

Mae gan y sector addysg bellach rôl sylweddol i’w chyflawni er mwyn cwrdd â’r gofyn cynyddol am sgiliau dwyieithog ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, medd darparwr addysg bellach mwyaf Cymru.

Dywed Grŵp Llandrillo Menai, sydd ar flaen y gad o ran darpariaeth addysg bellach ddwyieithog, fod hyrwyddo gwerth cymdeithasol ac economaidd y Gymraeg ymhlith myfyrwyr ôl-16 yn allweddol er mwyn iddynt fedru cymryd mantais o gyfleoedd gwaith yn y dyfodol. Mae’r sector iechyd a gofal cymdeithasol yn flaenoriaeth i’r Grŵp, gan fod cyflogwyr a chwsmeriaid fwyfwy’n disgwyl medru derbyn gwasanaethau yn y Gymraeg ac yn Saesneg.

Mae’r Grŵp yn manteisio ar ei bresenoldeb yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanrwst eleni er mwyn tynnu sylw at rai o’r cynlluniau y maent yn eu gweithredu ar draws eu safleoedd yng Ngogledd Cymru i gefnogi’r agenda sgiliau dwyieithog yn lleol ac yn genedlaethol. Ymhlith eu gweithgareddau yn ystod yr wythnos mae lansiad pecyn adnoddau ymwybyddiaeth iaith rhyngweithiol ar gyfer dysgwyr ôl-16 a fydd yn dilyn y cwrs Iechyd a Gofal Cymdeithasol Lefel 2: Craidd, a fydd yn cael ei gynnig o fis Medi 2019.

Bydd hefyd yn dathlu’r berthynas flaengar rhwng y Grŵp a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol sy’n gyfrifol am hyrwyddo cyfleoedd astudio trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn ddwyieithog.

Ym mis Chwefror eleni, derbyniodd 10 o fyfyrwyr Gradd Sylfaen Iechyd a Gofal Cymdeithasol o Goleg Meirion-Dwyfor (safle Dolgellau) Ysgoloriaeth Cymhelliant gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Dyfarnwyd yr ysgoloriaethau, gwerth £1500 yr un dros dair blynedd, i fyfyrwyr blwyddyn gyntaf a oedd yn astudio o leiaf 33% o’u cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg.

Ers iddo gael ei sefydlu yn 2011, mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi bod yn gweithio trwy ganghennau mewn saith o brifysgolion yng Nghymru sy’n gweithredu fel pwynt cyswllt lleol i fyfyrwyr. Yn dilyn ymestyn ei rôl i’r sector addysg ôl-16, sefydlwyd cangen addysg bellach o’r Coleg Cymraeg yn Grŵp Llandrillo Menai yn 2018.

Meddai Prif Weithredwr Grŵp Llandrillo Menai, Dafydd Evans: “Mae’n fraint cydweithio mewn modd mor bositif ac arloesol gyda’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Fel darparwr addysg bellach, rydyn ni’n chwarae rôl hollbwysig o ran gweithredu’r amrywiol gynlluniau gweithredu a strategaethau sydd gan y Llywodraeth ac asiantaethau eraill yn ymwneud â dwyieithrwydd.

“Mae’r bartneriaeth gyda’r Coleg Cymraeg yn cryfhau ein capasiti i sicrhau bod dilyniant o fyd addysg gynradd ac uwchradd ddwyieithog wrth i’n myfyrwyr baratoi ar gyfer y gweithle, a’u bod yn parhau i fedru defnyddio eu Cymraeg trwy gydol eu hastudiaethau. Dim ond un rhan o’r ateb yw darparu cyrsiau trwy gyfrwng y Gymraeg; rydyn ni hefyd yn annog pobl ifanc i weld gwerth mewn cael dwy iaith ac yn meithrin eu hyder i ddefnyddio’r Gymraeg ar unrhyw gyfle.”

Ychwanegodd: “Mae’r Gymraeg wrth graidd ein gwerthoedd a’n diwylliant fel sefydliad, ac mae datlbygu cyfleoedd i’n myfyrwyr fedru dysgu a chymdeithasu yn ddwyieithog yn un o’n prif flaenoriaethau – yn arbennig ym maes iechyd a gofal cymdeithasol lle mae dwyieithrwydd mor bwysig yng nghyd-destun cyfleoedd gwaith iddynt yn y dyfodol.

“Mae penodiad swyddog cangen y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, sy’n gweithio o fewn y Grŵp, wedi atgyfnerthu ein hymdrechion yn y maes hwn yn sylweddol, ac mae gennym ni gynlluniau cyffrous iawn ar y gweill. Yn yr hydref, byddwn yn cynnal cynhadledd aml-asiantaeth i drafod pwysigrwydd y Gymraeg o fewn y sector iechyd a gofal cymdeithasol.

“Byddwn hefyd yn lansio prosiect traws-genhedlaeth o’r enw ‘Gyda’n Gilydd’ – sydd wedi’i ariannu trwy Gronfa Hybu a Hyrwyddo’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol – i ddod â’n myfyrwyr iechyd a gofal cymdeithasol a phobl hŷn ynghyd i fwynhau gweithgareddau anffurfiol mewn amgylchedd naturiol ddwyieithog.”

Meddai Dr Dafydd Trystan, Cofrestrydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol: “Rwy’n falch iawn o’r bartneriaeth rhwng y Coleg Cymraeg a’r Grŵp. Mae’r Cynllun Cenedlaethol i ddatblygu sgiliau dwyieithog mewn Colegau ar draws y wlad yn sail bwysig i ddatblygiadau’r degawd nesaf.

“Mae canolbwyntio ar ddatblygiadau iechyd a gofal yn allweddol i sicrhau fod pob dysgwr a’r grŵp yn gallu delio yn hyderus gyda chleifion a chleientiaid yn y Gymraeg neu’r Saesneg.”

Mae cydweithio gyda chyflogwyr hefyd yn elfen bwysig o strategaeth ddwyieithrwydd Grŵp Llandrillo Menai. Mae Derwen Deg, meithrinfa Gymraeg yng Nghyffordd Llandudno, wedi bod yn gweithio gyda’r Grŵp i dynnu sylw ymhlith myfyrywyr at y cyfleoedd gwaith lleol sydd ar gael ym maes gofal plant a chodi ymwybyddiaeth o’r galw cynyddol gan rieni am ofal meithrin ac addysg cyn-ysgol trwy gyfrwng y Gymraeg.

Bydd Nia Owen, sylfaenydd Derwen Deg, yn cymryd rhan mewn trafodaeth am bwysigrwydd y Gymraeg yn y sector gofal plant a fydd yn cael ei chynnal gan y Grŵp ar Faes yr Eisteddfod ddydd Gwener. Meddai Nia, sy’n fam i ddau o blant ifanc: “Ar hyn o bryd mae mwy o alw am feithrinfeydd Cymraeg a dwyieithog mewn rhannau o Gymru nag sydd o ddarpariaeth, a dyna’n union wnaeth fy ysgogi i i sefydlu Derwen Deg mewn partneriaeth â Menter Iaith Conwy.

“Does dim posib cwrdd â’r galw yma heb fod gennym ni ddigon o staff dwyieithog cymwys a all ddarparu gofal plant Cymraeg a dwyieithog i deuluoedd ar hyd arfordir Gogledd Cymru. Dyna pam yr ydym yn gefnogol iawn i waith Grŵp Llandrillo Menai yn y maes hwn, ac yn arbennig o falch o gyfrannu tuag at arfogi myfyrwyr gyda’r sgiliau a’r ymwybyddiaeth sy’n angenrheidiol i fedru cymryd mantais o gyfleoedd gwaith yn awr ac yn y dyfodol.”


Related Articles

Responses