From education to employment

Neges ddiweddar gan y Pennaeth, Mark Jones (16 Gorffennaf)

Mae’r cyhoeddiad a wnaed yr wythnos diwethaf gan y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, i bob pwrpas yn golygu ein bod bellach wedi cael cymeradwyaeth i lunio ail gynllun ar gyfer mis Medi yn seiliedig ar bresenoldeb corfforol myfyrwyr Coleg 16-18 oed ar y campws.

Ac er y byddem wrth ein boddau pe bai hyn yn ffordd ymlaen ymhen llai na deufis, yn amlwg bydd unrhyw benderfyniad terfynol – yn ôl is-grŵp Plant ac Addysg y Grŵp Cynghori Technegol – yn seiliedig ar ostyngiad cyson a pharhaus ym mhesenoldeb y feirws yn y gymuned a bod amrywiaeth o fesurau priodol ar waith gan gynnwys rhaglen effeithiol o olrhain cysylltiadau.

Felly, fel Coleg, rydym wedi penderfynu rhoi dau gynllun ar waith. Mae’r cyntaf yn seiliedig ar fodel o addysgu cyfunol h.y. cyfuniad o addysgu a chymorth ar y campws ac ar-lein. Mae’r ail yn seiliedig ar y mwyafrif o’n myfyrwyr amser llawn yn cael eu haddysgu bron yn gyfan gwbl ar y campws.

Yn fy marn i, y sefyllfa ddelfrydol yw bod gan y Coleg gynlluniau ar wahân sydd wedyn yn caniatáu i ni symud yn hawdd ac yn effeithlon rhwng y ddau fodel yn ôl yr angen e.e. os ydym yn dioddef ail begwn ganol y flwyddyn.

Mae hyn yn golygu bod yr holl waith paratoi a wnaed hyd yma, gan staff ar draws y Coleg, wedi bod yn amhrisiadwy, ac mewn sawl achos bydd yn gweithredu bellach fel llinell sylfaen newydd, y gallwn adeiladu arni.

Rydym nawr yn aros am fanylion ac arweiniad pellach o ran yr hyn y gallwn ei wneud a’r hyn na allwn ei wneud mewn meysydd hanfodol fel trafnidiaeth a rheoli swigod ar gyfer myfyrwyr sy’n astudio pynciau gwahanol e.e. ar gyfer myfyrwyr Safon Uwch, a allen ni ddysgu un pwnc ar y dydd Llun, ac yna dysgu ail bwnc ar wahân ar y dydd Mawrth ac ati.

Ac wrth i ni dderbyn yr eglurder hwn, ar y dechrau byddwn yn gweithio gyda’n staff a’n hundebau llafur cydnabyddedig i weithio trwy’r manylion ac yna eu rhannu gyda myfyrwyr, rhieni a rhanddeiliaid allweddol eraill cyn gynted ag y gallwn.

Gan ein bod wedi cyfathrebu trwy gydol y pandemig hwn, rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod iechyd a diogelwch ein myfyrwyr a’n staff yn parhau i fod o’r pwys mwyaf, felly gallwn eich sicrhau y bydd hyn yn cael ei nodi ar bob cam o’n cynlluniau.

Mark Jones
Pennaeth


Related Articles

Responses