From education to employment

Welsh Government announces £1.25m to provide additional mental health support for children

The @WelshGovernment has announced £1.25m to provide additional mental health support for children who may be experiencing increased stress or anxiety as a result of the international coronavirus outbreak.

The funding, announced by Education Minister Kirsty Williams, will be provided for school counselling services to deal with an anticipated increase in demand since the start of the pandemic.

The Welsh Government provides funding to local authorities to deliver counselling services in schools – the additional funding will allow an increase of staffing, following recruitment of counsellors over the last year. 

New guidance and online resources for mental health are also being developed to help deal with additional issues created by the coronavirus.

The additional funding will be available in the financial year 2020-21.

Education Minister Kirsty Williams said: “We’ve always known than schools do far more than teach children – good mental and physical well-being are essential to good learning.

“We expect an increase in demand for mental health support, as children have concerns over the impact of the coronavirus on people’s health or on their education.

“With the necessary restrictions on how much time children can spend outdoors, in order to halt the spread of the virus, we must also be prepared for an impact on children’s emotional wellbeing. 

“We’ve been investing in counselling services and mental health support over the past year and provided funding to local authorities to deliver counselling services in schools and recruited additional counsellors. 

“We need to start addressing issues now, not store them up for after the lockdown.”

Sara Moseley, Director of Mind Cymru said: “Better support for the mental health of our children and young people is an absolute priority.

“We know that that the uncertainty and change heralded by the current situation is leaving a lot of young people isolated and anxious, so speed is of the essence.

“Schools counselling is an important element of what our children will need.

“When they get back to school, we need to make sure that this is combined with a curriculum that gives them the tools to have better psychological health and an approach that reaches every part of the school community.”

Mwy o gymorth ar gyfer iechyd meddwl plant yn sgil yr achosion o COVID-19

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi £1.25m i ddarparu rhagor o gymorth ar gyfer iechyd meddwl plant a allai fod yn teimlo dan fwy o straen neu’n fwy pryderus oherwydd y coronafeirws.

Cafodd y cyhoeddiad ynglŷn â’r cyllid ei wneud gan Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg. Mae’r cyllid hwn yn cael ei ddarparu i wasanaethau cwnsela mewn ysgolion er mwyn iddynt allu ymateb i’r cynnydd yn y galw ers dechrau’r pandemig.

Mae cyllid yn cael ei ddarparu gan Lywodraeth Cymru i’r awdurdodau lleol ar gyfer cynnal gwasanaethau cwnsela mewn ysgolion. Bydd y cyllid ychwanegol hwn yn golygu bod modd cynyddu nifer y staff, ar ôl i ymarfer recriwtio cwnselwyr gael ei gynnal dros y flwyddyn ddiwethaf.

Mae canllawiau newydd ac adnoddau ar-lein ar gyfer iechyd meddwl hefyd yn cael eu datblygu i helpu i fynd i’r afael â materion eraill sy’n codi oherwydd y coronafeirws.

Bydd y cyllid ychwanegol hwn ar gael ym mlwyddyn ariannol 2020-21.

Dywedodd Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg: “Mae ysgolion yn gwneud llawer mwy nac addysgu plant – roedden ni’n gwybod hynny cyn hyn. Rhaid bod iechyd meddwl ac iechyd corfforol yn dda cyn sicrhau bod y dysgu yn dda.

“Mae plant yn poeni am effaith y coronafeirws ar iechyd unigolion neu ar eu haddysg eu hunain. Rydyn ni’n disgwyl gweld cynnydd felly yn y galw am gymorth iechyd meddwl.

“Gyda’r cyfyngiadau angenrheidiol ar yr amser y mae plant yn gallu ei dreulio allan yn yr awyr agored, er mwyn atal y feirws rhag lledaenu, rhaid inni hefyd baratoi ar gyfer yr effaith ar les emosiynol plant. 

“Rydyn ni wedi bod yn buddsoddi mewn gwasanaethau cwnsela a chymorth iechyd meddwl dros y flwyddyn ddiwethaf. Rydyn ni wedi rhoi cyllid i awdurdodau lleol ar gyfer darparu gwasanaethau cwnsela mewn ysgolion ac rydyn ni wedi recriwtio rhagor o gwnselwyr.   

“Mae angen inni ddechrau mynd i’r afael â materion nawr, a pheidio â gadael iddyn nhw bentyrru tan ar ôl i’r cyfyngiadau ddod i ben.”

Dywedodd Sara Moseley, Cyfarwyddwr Mind Cymru: “Darparu cymorth gwell ar gyfer iechyd meddwl ein plant a’n pobl ifanc yw’r brif flaenoriaeth.

“Rydyn ni’n gwybod bod llawer o blant a phobl ifanc yn teimlo’n ynysig ac yn bryderus oherwydd yr ansicrwydd a’r newidiadau y mae’r sefyllfa bresennol yn awgrymu sydd ar ddod. Mae’n hanfodol felly ein bod ni’n ymateb yn gyflym. 

“Mae gwasanaethau cwnsela mewn ysgolion yn elfen bwysig o’r hyn fydd ei angen ar ein plant.

“Pan fyddan nhw’n mynd nôl i’r ysgol, mae angen inni wneud yn siŵr bod y gwasanaethau hyn yn cael eu cyflwyno ar y cyd â chwricwlwm sy’n darparu’r arfau sydd eu hangen arnyn nhw i wella eu hiechyd seicolegol a dull sy’n cyrraedd pob rhan o’r gymuned ysgol.”


Related Articles

Responses