From education to employment

OECD recognise Wales’s ‘clear vision for its education system and its learners’ in new independent report

The Organisation for Economic Co-operation and Development (@OECD) has today (Monday, October 5) published an independent report on progress made in achieving a new curriculum for Wales.

The report recognises that Wales now ‘has a clear vision for its education system and for its learners.’

The report also:

  • acknowledges the Welsh Government’s role in ‘embedding co-construction across the system as a principle for curriculum development and education policy making more generally’,
  • praises communication saying it has been ‘clear and continuous with strong leadership from the top’
  • recognises the Welsh Government has met challenges set in previous reports and that it has established ‘coherence to the different policy components and clarity on the vision, establishing a strong basis for education professionals to make the ‘national mission’ their own.’

Speaking after the report’s publication, Education Minister Kirsty Williams said:

“During my time as Minister, we have put a lot of effort into being more internationally connected.

“We want to learn from the best, so that we too can be the best and working with OECD has been essential to this new approach for Wales.

“The OECD know and understand our system, they can hold a mirror up to us as a government and the report provides a helpful challenge and validation of the progress we are making and I would like to thank everyone involved in providing this report to us today.”

The Minister then explained how the report’s recommendations would be used to shape the future of education in Wales.

“Next week, I will publish an update to Our National Mission,” she said.

“This will take into consideration the OECD recommendations, review our collective efforts and achievements and map the next stage of the journey.

“Our continuing education reforms, with Curriculum for Wales at the centre, is truly a shared, national endeavour.

“I am immensely proud to be working with teachers, academics, practitioners, businesses, unions, the OECD and many others who are building this future for our learners, our schools and our nation.

“We have the strong foundations in place and we will move forward with our new curriculum.

“A curriculum for Wales, of Wales, and by Wales.”

Yr OECD yn cydnabod gweledigaeth glir Cymru ar gyfer ei system addysg a’i dysgwyr mewn adroddiad annibynnol newydd

Heddiw (dydd Llun 5 Hydref) mae’r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD) wedi cyhoeddi adroddiad annibynnol ar y cynnydd a wnaed o ran cyflawni cwricwlwm newydd i Gymru.

Mae’r adroddiad yn cydnabod bod gan Gymru bellach weledigaeth glir ar gyfer ei system addysg a’i dysgwyr.

Mae’r adroddiad hefyd:

  • yn cydnabod rôl Llywodraeth Cymru o ran ymgorffori dull o ddatblygu ar y cyd ar draws y system fel egwyddor ar gyfer datblygu’r cwricwlwm a llunio polisïau addysg yn gyffredinol
  • yn canmol y cyfathrebu gan nodi ei fod wedi bod yn glir ac yn gyson ac yn cynnwys arweinyddiaeth gryf o’r brig
  • yn cydnabod bod Llywodraeth Cymru wedi ymateb i’r heriau a osodwyd mewn adroddiadau blaenorol a’i bod wedi sefydlu cydlyniad i wahanol elfennau’r polisïau ac eglurder o ran y weledigaeth – gan sicrhau bod sail gryf i weithwyr addysg proffesiynol allu gwneud ‘cenhadaeth ein cenedl’ yn rhywbeth sy’n bersonol iddynt.

Wrth siarad ar ôl cyhoeddi’r adroddiad, dywedodd Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg: “Yn ystod fy amser fel Gweinidog, rydyn ni wedi gwneud llawer o ymdrech i gael mwy o gysylltiad rhyngwladol.

“Rydyn ni am ddysgu o’r goreuon, fel y gallwn ni fod y gorau hefyd, ac mae gweithio gyda’r OECD wedi bod yn hanfodol i’r dull newydd hwn i Gymru.

“Mae’r OECD yn gwybod ac yn deall ein system, a gallan nhw ddal drych i fyny er mwyn inni fel Llywodraeth wella ein hunain. Mae’r adroddiad yn darparu her ddefnyddiol ac yn dilysu’r cynnydd yr ydyn ni’n ei wneud. Hoffwn i ddiolch i bawb sy’n ymwneud â darparu’r adroddiad hwn i ni heddiw.”

Yna eglurodd y Gweinidog sut y byddai argymhellion yr adroddiad yn cael eu defnyddio i lywio dyfodol addysg yng Nghymru.

“Y wythnos nesaf, byddaf yn cyhoeddi diweddariad ar Genhadaeth ein Cenedl,” meddai.

“Bydd hyn yn ystyried argymhellion yr OECD, yn adolygu ein hymdrechion a’n cyflawniadau ar y cyd, ac yn mapio cam nesaf y daith.

“Mae ein diwygiadau addysg parhaus, sydd â Chwricwlwm Cymru wrth wraidd iddynt, yn ymdrech genedlaethol a rennir.

“Rwy’n hynod falch o fod yn gweithio gydag athrawon, academyddion, ymarferwyr, busnesau, undebau, yr OECD a nifer o rai eraill sy’n adeiladu’r dyfodol hwn i’n dysgwyr, ein hysgolion a’n cenedl.

“Mae gennym y sylfeini cryf ar waith, a byddwn yn symud ymlaen gyda’n cwricwlwm newydd.

“Cwricwlwm i Gymru, o Gymru, a chan Gymru.”


Related Articles

Responses