From education to employment

Clyweliadau ar-lein yn agor ar gyfer y cwrs Theatr Gerdd

Mae myfyrwyr sy’n gobeithio cael lle ar gwrs Tystysgrif AU Coleg Gŵyr Abertawe mewn Theatr Gerdd yn cael eu gwahodd i glyweliad ar-lein eleni.

Gofynnir i ymgeiswyr ffilmio eu hunain:

  • Perfformio cân unawd gyda naill ai trac cefndir neu gyfeiliant piano. Gall y gân fod yn glasurol/traddodiadol neu gyfoes
  • Perfformio un monolog, eto’n glasurol neu’n gyfoes, sy’n para  tua dwy funud
  • Esbonio’ch profiad o’r celfyddydau perfformio a dawns hyd yma h.y. rhannau rydych chi wedi’u chwarae, cynyrchiadau rydych chi wedi bod yn rhan ohonynt, grwpiau theatr rydych chi wedi ymuno â nhw, cyrsiau rydych chi wedi’u cwblhau

Yna gallwch lanlwytho’r fideos gorffenedig ar YouTube lle bydd arweinydd y rhaglen, Rhian Holdsworth, yn eu gwylio a rhoi adborth.

“Mae hwn yn gyfnod anghyffredin iawn ac yn amlwg dydyn ni ddim yn gallu cynnal clyweliadau wyneb yn wyneb,” meddai Rhian. “Ond, rydyn ni’n wirioneddol awyddus i barhau â’r broses ac rydyn ni’n edrych ymlaen at weld sut y gall ein darpar fyfyrwyr – a ninnau fel darlithwyr – ymateb i’r her. Peidiwch â phoeni os nad ydych chi’n Stephen Spielberg! Bydd fideos sydd wedi’u gwneud ar ffôn symudol yn gwbl dderbyniol. Yr hyn rydyn ni am ei weld yw eich talent canu ac actio a’ch brwdfrydedd dros yrfa yn y diwydiant. ”

Addysgir y cwrs arloesol Tystysgrif AU Theatr Gerdd Lefel 4 mewn partneriaeth â Phrifysgol Swydd Gaerloyw. Mae’n rhoi hyfforddiant cynhwysfawr i fyfyrwyr mewn dawns, actio a chanu a chyfle i ennill profiad hefyd ar y llwyfan, gan gymryd rhan mewn gweithdai dan arweiniad cyfarwyddwyr blaenllaw, cyfarwyddwyr cerdd a choreograffwyr.

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyniadau yw 11:59pm ar ddydd Sul 26 Ebrill 2020.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y broses glyweld cysylltwch â [email protected]

I gael rhagor o wybodaeth ynghylch sut i lanlwytho’ch fideo clyweliad ewch i https://bit.ly/2zlOIBC


Related Articles

Responses